P-05-1081 Sicrhau bod perchnogion ail gartrefi a thai gwyliau ar rent yng Nghymru yn pleidleisio yn eu prif gyfeiriad yn unig, mewn etholiadau datganoledig a lleol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gorau i Gymru - Best for Wales, ar ôl casglu cyfanswm o 4,896 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cadarnhau nad oes gwiriadau systematig i ganfod a yw rhywun wedi pleidleisio ddwywaith. Nid ydym yn credu bod y ffaith bod twyll etholiadol yn anghyfreithlon ynddi’i hun yn ddull digonol o ddiogelu os na wneir gwiriadau systematig. Mae hyn yn debyg i gael cyfreithiau ynghylch goryrru ond heb gamerâu cyflymder yn cael eu gweithredu. Mae’r potensial difrifol o ran twyll ac effaith niweidiol hynny ar ein gwlad yn anferth a dylid cael trefn arno cyn etholiad 2021.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyfeirnod:
E-bost wedi’i dderbyn gan y Comisiwn Etholiadol ar 3 Tachwedd 2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Ynys Môn
· Gogledd Cymru